Braster annirlawn

Braster annirlawn
Mathbraster, nutrient Edit this on Wikidata
Y gwrthwynebbraster dirlawn Edit this on Wikidata
Canran teipiau braster mewn gwahanol fwydydd

Mae braster annirlawn[1] yn fath o fraster. Mae'n wahanol i fraster dirlawn gan ei fod yn hylif ar dymheredd ystafell tra bod braster dirlawn yn fwy solet. Mae ei foleciwlau'n cynnwys bondiau dwbl nad yw eu hatomau carbon wedi'u dirlawn yn llawn â hydrogen. Mae dau fath:

  • Monannirlawn; neu'r rhai sydd ag un cwlwm, neu bond, dwbl
  • Amlannirlawn; neu gyda mwy nag un bond dwbl

Mewn metaboledd cellog, mae moleciwl braster annirlawn yn cynnwys ychydig yn llai o egni (hynny yw llai o galorïau) na'r moleciwl braster dirlawn o'r un hyd.

Enghreifftiau o frasterau annirlawn yw asid palmitoleic, asid oleic, asid myristoleic, asid linoleig, ac asid arachidonic. Mae bwydydd sy'n cynnwys brasterau annirlawn yn cynnwys afocado, cnau, ac olewau llysiau fel olewau canola (sy'n cynnwys olew rêp) ac olewydd. Mae cynhyrchion cig yn cynnwys brasterau dirlawn ac annirlawn.

  1. "Annirlawn". Geiriadur Prifysgol Cymru. Cyrchwyd 2 Awst 2024.

Developed by StudentB